Dros y tri degawd diwethaf, mae diwydiant technoleg Cymru wedi sefydlu hanes llwyddiannus iawn o arloesedd. Gan wasanaethu marchnadoedd byd-eang, mae’r diwydiant yn gwneud cyfraniad cryf i economi Cymru gyda’i weithlu o 30,000 yn cyfrif am tua 5.5% o Werth Ychwanegol Crynswth*. Mae trosiant cyfun y diwydiant yn awr yn fwy na £3.2 biliwn (*Cambridge Econometrics 2003)
Mae’r diwydiant yn gyfuniad iach o fusnesau cadarn sydd wedi ymsefydlu’n dda. Mae mantol y diwydiant wedi newid yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar o weithgynhyrchu cyfaint uchel i gynhyrchu arbenigol cyfaint is, gwerth uwch ac mae Cymru bellach yn gartref i sylfaen sefydlog o gwmnïau llai a mwy arbenigol sydd â’u pencadlysoedd, canolfannau ymchwil a datblygu neu ran sylweddol o’u gweithrediad yma.
Amcangyfrif fod y diwydiant technoleg yng Nghymru yn cynnwys tua 300 o gwmnïau canolig i fawr a hyd at 3,000 o gwmnïau bychan, blaengar.
| Is-sector | Cyfraniad |
| Gweithgynhyrchu electroneg cyfaint uchel | 36% |
| Gweithgynhyrchu electronig arbenigol | 27% |
| Meddalwedd a gwasanaethau TG | 20% |
| Lled-ddargludyddion | 9% |
Er mwyn canfod sut gall ADC gynnig cymorth i’ch busnes chi, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod: