Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Canolfannau Cyswllt a gwasanaethau cyfrannol Gorolwg / ffotograffiaeth, clustffon

GOROLWG

Buddsoddi ac ail-fuddsoddi sylweddol gan gwmniau sglodion glas, megis ntl, HBOS Zurich ac ING / ffotograffiaeth, rhwydwaith mewnol TG canolfannau cyswllt a gwasanaethau cyfrannol

Yn gartref i tua 150 o gwmnïau, mae’r diwydiannau canolfannau cyswllt a gwasanaethau cyfrannol yng Nghymru yn cyflogi tua 25,000 o staff.  Ers y 1990au cynnar, mae’r diwydiannau hyn wedi tyfu o ran statws a maint.  Er enghraifft, tyfodd canolfannau cyswllt yng Nghymru gan 13% rhwng 2002 - 2004. (Ffynhonell: Mitial International).

Mae Cymru eisoes wedi profi’n leoliad deniadol ar gyfer canolfannau cyswllt a chanolfannau gwasanaethau cyfrannol a hynny ar hyd ystod eang o sectorau, yn cynnwys gwasanaethau cyllidol, llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, telegyfathrebu, masnach, teithio a TG.  Mae’r mwyafrif helaeth o ganolfannau gwasanaethau cyfrannol yng Nghymru yn ffocysu ar gyllid a TG, ac maent yn cynnig ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys cyfrifon sy’n daladwy, cyfrifon sydd i’w derbyn, rheolaeth arian parod, rhestrau cyflogi a gwasanaethau TG.

Mae Cymru yn datblygu enw da fel lleoliad ar gyfer canolfannau gwasanaethau cyfrannol, ac adlewyrchir hyn yn y ffaith fod un o brif weithgareddau allweddol y diwydiant yn Ewrop, Wythnos Gwasanaethau  Cyfrannol, wedi cymryd lle yng Nghymru ym mis Mai 2005.

Cwmnïau o’r DU a ledled y Byd yn buddsoddi ac yn ehangu yng Nghymru

Mae buddsoddi ac ail-fuddsoddi arwyddocaol gan brif gwmnïau fel ntl, HBOS, Zurich ac ING mewn canolfannau cyswllt, ac Unilever, Tesco, Logica CMG a’r Big Food Group mewn gwasanethau cyfrannol, wedi megino twf y diwydiannau hyn yng Nghymru. Mae cynnydd mewn busnesau sector cyhoeddus ynghyd â busnesau cartref, llai eu maint, hefyd wedi cael effaith ar raddfa ac ehangder y diwydiannau yng Nghymru.

Datblygu canolfannau rhagoriaeth ar seiliau cadarn

Mae canolfannau cyswllt a chanolfannau gwasanaethau cyfrannol yng Nghymru yn falch iawn o’u lefelau cadw staff - sydd dipyn yn is na chyfartaledd y DU. Gorllewin Cymru biau’r graddau athreuliad isaf (13.4%), o blith pob ardal yn y DU (cyfartaledd y DU yw 28.7%). Mae cyflogwyr yn aml yn priodoli hyn i ffactorau fel lefelau uchel o gymhelliad ac ymroddiad ymhlith staff.
Yn ôl canolfannau cyswllt a gwasanaethau cyfrannol yng Nghymru, mae cydberthynas uchel rhwng lefelau cadw staff, cynhyrchiant, effeithlonrwydd a rhagoriaeth mewn gwasanaethu.

Cymru - yn darparu’r cysylltiadau cywir ar gyfer canolfannau cyswllt a gwasanaethau cyfrannol

Mae gan Awdurdod Datblygu Cymru berthynas gref gyda nifer o ganolfannau cyswllt a gwasanaethau cyfrannol yng Nghymru, ac mae hyn wedi helpu’r cwmnïau i gyflawni eu hamcanion busnes. Mae rheolwyr cyfrif ymroddedig yn gweithio gyda chwmnïau, yn cynnig cyngor, arweiniad a chyfeiriad ar ystod o faterion busnes fel marchnata, datblygu strategaeth, dod o hyd i eiddo busnes addas, ffynonellau arbenigedd a chyngor cyfansawdd ar faterion ariannol.