Gorolwg o’r SectorMae’r sector gwasanaethau ariannol yn gartref i 1,800 o gwmnïau, ac yn cyflogi tua 28,000 o staff. Mae felly yn gwneud cyfraniad arwyddocâol i economi Cymru. Ar hyn o bryd mae’r sector yn cynhyrchu 5% o GDP Cymru (Ffynhonnell: ABI 2002). Cafodd y sector ei enwi yn strategaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Cymru ar Ennill”, fel sector allweddol ar gyfer datblygu. Mae bancio a chymdeithasau adeiladu yn llywodraethu’r sector yng Nghymru, yn cyflogi 62% o’r gweithlu gwasanaethau ariannol. Mae cwmnïau pensiwn ac yswiriant yn cyflogi 21%, gan adael 17% yn weddill, yn gweithio ar dasgau gweithredol ac arolygaeth. Bancio a Chymdeithasau Adeiladu Bancio - masnachol a chyfanwerth; Cymdeithasau Adeiladu; Cwmniau Buddsoddi ac ymddiriedolaeth Unedau; cyfalaf mentro Yswiriant a Phensiynau Cwmniau Yswiriant - yswiriant bywyd a chyffredinol; Cwmniau Pensiwn Gweithredu ac Arolygu Broceriaid Yswiriant; Cynghorwyr Ariannol Annibynnol; Rheolwyr Cronfeydd; Rheolwyr Asedau; Stocbroceriaid; Actiwariaid; Unionwyr Colledion; Rheolaeth Risg; Cyfnewidiadau; Cwmniau Rheoli Cyfoeth Cwmnïau o’r DU a ledled y Byd yn buddsoddi ac yn ailfuddsoddi yng NghymruErs y 1990au cynnar, mae nifer o gwmnïau gwasanaethau ariannol o’r DU ac yn fyd-eang wedi sefydlu ac ehangu eu gweithgaredd yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys HBOS, Lloyds TSB, Zurich, GMAC, GE a Legal & General. Roeddem yn awyddus iawn I ymsefydlu yng Nghymru. Roedd cwmni Lloyds TSB wedo prynu busnes deinamig iawn yng Nghaerdydd - gyda’r bobl cywir a’r arbenigedd I yrru’r busness newydd ymlaen. Yn ogystal roedd y cwmni yng Nghaerdydd wedi datblygu model busnes llwyddiannus - ac roeddem yn awyddus I ddyblygu’r llwyddiant hwn ar hyd holl weithgareddau’r Black Horse,” meddai Ian O’Hare, Pennaeth Cysylltiadau Corfforaethol, Llyods TSB Asset Finance.
Yn 2004 cyhoeddodd ING Direct, cwmni gwasanaethau cyllidol fyd-eang, ei fod yn creu 300 o swyddi yng Nghaerdydd. Cwmnïau o Gymru yn llwyddoMae cwmnïau a ddechreuodd yng Nghymru, fel Cymdeithas Adeiladu y Principality, Banc Julian Hodge, Yswiriant Admiral a Thomas, Carroll hefyd wedi profi lefelau twf arwyddocaol yn ddiweddar. Cychwynnodd Admiral Insurance yng Nghaerdydd ym 1993, gyda 57 aelod o staff. Erbyn diwedd 2002 roedd y cwmni wedi ehangu ac roedd yn cyflogi tua 1500 o bobl ar ddwy safle yng Nghaerdydd ac Abertawe. Bellach mae gan Admiral dros 940,000 o gwsmeriaid, a hyd ddiwedd Mehefin 2004 roedd wedi gwneud elw hanner blwyddyn o $45.3 miliwn.
Mae nifer o gwmnïau niche o fewn y sector hefyd yn dangos lefelau twf uchel. Mae’r rhain yn ffocysu ar ddatblygu cynnyrch arloesol i wasanaethu anghenion sectorau penodol o’r farchnad.
Mae Composite Legal Expenses er enghraifft, yn cynnig ystod eang o ddatrysiadau arloesol, wedi’u teilwra ar gyfer y marchnadoedd cyfreithiol, broceri yswiriant a chwmnïau. Llynedd cynyddodd elw cyn-treth y cwmni hwn o Gaerdydd gan 500% i £2.13 miliwn (cynyddodd trosiant o £2.8 miliwn yn 2001 i £14 miliwn yn 2002).
“Rydym wedi sefydlu canolfan rhagoriaeth yn yswiriant costau cyfreithiol, sy’n unigryw yn y DU,” meddai John Mullin, rheolwr gyfarwyddwr, Composite Legal Expenses. “Mae angen unigolion dawnus a deallus arnom ni, ac mae gennym dim o arbenigwyr yng Nghaerdydd, lle mae sawl un ohonynt yn meddu ar 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant. Maent yn gweithio’n ddyfal I gyflwyno arloesedd technolegol I gadw I fyny gyda’r newidiadau yn y farchnad.”
Dewis cynyddol o wasanaethauMae twf mewn buddsoddi o’r tu allan, ynghyd â thwf cwmnïau cynhenid, yn arwain at gynnydd yn ystod y gwasanaethau a’r gweithgareddau a gynigir gan gwmnïau gwasanaethau ariannol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Agorodd Leagal & General ei swyddfa gyntaf yng Nghaerdydd ym 1996, gyda chymorth ariannol a chyflenwol gan ADC. Canolfan gyswlt ydoedd yn wreiddiol, yn cyflogi 30 o staff. Ond ehangodd y gwaith yn gyflym a bellach mae’r ganolfan yn gartref I ganolfan gwas anaeth gweithredol Legal & General ledled y DU, yn gartref I’w fusnes buddsoddi masnachol. Ei fusnes uniongyrchol a’r ganolfan gwarantu meddygol. Mae’n cyflogi 2,000 o weithwyr, a dyma ail ganolfan fwyaf y cwmni yn y DU.
Mae’r sector wedi gweld cynnydd yn nifer y cwmnïau sy’n gweithio drwy gyfrwng y rhyngrwyd. Mae cwmnïau fel Moneysupermarket.com, InsureYourMotor.com, a Creditsafe.com i gyd wedi sefydlu busnesau yng Nghymru.
Yn ol Cato Syverson, rheolwr gyfarwyddwr Creditsafe.com, “Symud I Gymru oedd y symudiad strategol gore wnaeth Creditsafe.com erioed.”
Adeiladu Gwasanaethau Ariannol ar seiliau cadarnMae cwmnïau yn y sector gwasanaethau ariannol yn falch iawn o’u lefelau cadw staff, ac maent yn argyhoeddiedig mai natur heriol y gwaith, diwylliant y cwmni a lefelau uchel o gymhelliad ac ymroddiad sy’n gyfrifol am hyn.Mae Mark Winlow, rheolwr gyfarwyddwr Zurich yn esbonio sut mae cyfraddau isle athreuliad yng Nghaerdydd wedi cael effaith bosit if ar berfformiad busnesau. “Mae lefelau isle o athreuliad yn golygu fod ysbryd yn uchel, ac mae ein costau hyfforddi a datblygu yn sicr eu bod yn delio a phobl profiadol. Gall ein gweithwyr sefydlu perthnasau real gyda’n cleientiad - ffaith s’y rhoi min gystadleuol sylweddol I ni.”
Mae cwmnïau gwasanaethau ariannol yn adrodd cydberthyniad uchel rhwng lefelau cadw staff, cynhyrchedd, effeithlonrwydd, ac yn y pendraw, elw. Cydweithio a phartneriaeth yn megino Mae clwstwr o wasanaethau cefnogaeth wedi tyfu ochr yn ochr â’r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru. Mae’r ffaith hwn wedi arwain at sawl partneriaeth fu’n llesol i’r ddwy ochr. Er enghraifft, mae’r cwmni meddalwedd Target wedi gweithio law yn llaw â chwmni FIRSTPLUS - sy’n darparu benthyciadau ariannol ar gyfer cartrefi, er mwyn datblygu prosesau effeithiol i ddatrys materion busnes. Mae cydweithio academaidd hefyd yn dwyn canlyniadau positif i gwmnïau o’r sector. Tim gwarantu meddygol Legal & General yng Nghaerdydd, yw’r mwyaf o’I fath yn y DU. Mae’n parhau I ehangu a datblygu drwy bartneriaeth y cwmni a Phrifysgol Caerdydd. Bellach, mae’r Brifysgol yn cynnig Academi Gwarantu sydd wedi’I deilwra I gwrdd ag anghenion y cwmni. Mae hyn wedi galluogi Legal & General I greu cwrs cyflym I hyfforddi gwarantwyr newydd, a gwella sgiliau a gwybodaeth ei weithwyr presennol. Cymru - yn cynnig y cysylltiadau cywir i fusnesau gwasanaethau ariannolMae gan Awdurdod Datblygu Cymru berthynas agos gyda sawl cwmni gwasanaethau ariannol, ac mae wedi’u helpu i wireddu eu hamcanion. Mae rheolwyr cyfrif ymroddedig yn gweithio gyda chwmnïau i dderparu cymorth, cyngor a chyfeirio ar ystod eang o faterion busnes, fel marchnata, datblygu strategol, dod o hyd i eiddo addas, ffynonellau arbenigedd a chyngor cyfansawdd ar ariannu. “Rwy’n rhagweld y bydd ein perthynas a’r Awdurod yn parhau I ddatblygu. Un peth da am Gymru yw bod cymaint o wneuthurwyr penderfyniadau ar gael mewn un lleoliad, ac mae’r mecanwaith cefnogi busnesau yn ddatblygedig iawn. Pan fyddwn yn barod I wireddu cyfle I ddatblygu is-fusnes arall, rydym yn hyderus bydd yr Awdurdod yn meddu ar y profiad a’r arbenigedd I’n cynorthwyo ni,” meddai Peter Griffiths, Prif Weithredwr, Cymdeithas Adeiladu y Principality. |