Welsh Assembly Government
Dydd Mercher 07 Ionawr 2009
Ffeithiau Cryno / ffotograffiaeth, darn jig-so

Y Ffeithiau Yn Gryno

Dyfniad

  • Cyflogir dros 28,000 o bobl yn y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru - sef 2.6% o’r gweithlu cyfan.
  • Mae gwasanaethau ariannol yn cyfrannu 5% i GDP Cymru
  • Mae tua 1,800 busnes yn y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru - gyda 73% ohonynt yn cyflogi llai na 10 aelod o staff; 22% yn cyflogi rhwng 11 â 49 o staff; 4% yn cyflogi rhwng 50 â 199 o staff; ac 1% yn cyflogi 200 o staff neu fwy.
  • Cyfansoddiad y Sector: mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn llywodraethu’r sector gwasanaethau ariannol, ac yn cyflogi 62% o’r gweithlu o fewn y sector.  Yswiriant a phensiynau yw’r ail is-sector fwyaf yng Nghymru - yn cyflogi 21%.  Cyflogir y gweddill gan gwmnïau ariannol eraill.
  • Lleolir y mwyafrif o’r gweithlu o fewn y sector gwasanaethau ariannol yn Ne-Ddwyrain Cymru - 66%.  Cyflogir 19% yn y De-Orllewin, 11% yng Ngogledd Cymru a 3% yng Nghanolbarth Cymru.
  • Mae’r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru yn cynnwys cymysgedd o gwmnïau arbenigol, fel Legal & General, Admiral Insurance a GMAC, a chwmnïau niche fel Composite Legal Expenses, Atradius a FIRSTPLUS.
  • Mae buddsoddi yn y sector ar gynnydd: yn ddiweddar cyhoeddodd cwmni ING Direct ei fod yn creu 300 o swyddi yng Nghaerdydd.
  • Cwmnïau yn ehangu:  Mae’r cwmnïau canlynol ymhlith rhai sydd yn ailfuddsoddi yn eu gwaith yng Nghymru:  Zurich, Legal & General, Lloyds TSB, a FIRSTPLUS.
  • Mae nifer cynyddol o gwmnïau yn sefydlu pencadlysoedd yng Nghymru, gydag Admiral Insurance, FIRSTPLUS a Moneysupermarket.com yn ymledu yma ochr yn ochr â chwmnïau sydd eisoes wedi ymsefydlu, e.e Julian Hodge Bank a Chymdeithas Adeiladu y Principality.
  • Mae cydweithio academaidd hefyd ar gynnydd o fewn y sector.  Er enghraifft mae tîm gwarantu meddygol Legal & General yn parhau i ehangu a datblygu yn sgîl eu partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
  • Mae’r sector yswiriant, sydd wedi’i leoli yn bennaf yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn gartref i gwmnïau o ragoriaeth fel Admiral, Legal & General, Lloyds TSB General Insurance, Zurich, HSBC Life ac AA Insurance.
  • Mae rhaglenni Awdurdod Datblygu Cymru fel Genba wedi galluogi cwmnïau gwasanaethau ariannol yng Nghymru, fel Cymdeithas Adeiladu y Principality, i wella’u perfformiad busnes.
  • Mae rheolwyr cyfrif a rheolwyr prosiect Awdurdod Datblygu Cymru yn datblygu perthynasau tywysol gyda chwmnïau sy’n gweithio o fewn y sector gwasanaethau ariannol i’w helpu nhw i wireddu eu cynlluniau ar gyfer twf.