Welsh Assembly Government
Dydd Mercher 07 Ionawr 2009
Astudiaethau Achos / ffotograffiaeth, Adeilad Principality

Astudiaethau Achos

Darllenwch am lwyddiannau’r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru a mynnwch ddealltwriaeth gwell o’r mathau o fuddiannau mae cwmnïau’r sector wedi’u derbyn o’u lleoliad yng Nghymru a’u perthynas gydag Awdurdod Datblygu Cymru.

Atradius - yn cyrraedd pellteroedd maith o Gaerdydd

Mae cwmni Atradius yn flaengar ledled y byd ym maes yswiriant a rheoli credyd - yn amddiffyn cwsmeriaid rhag y risg o ddiffyg talu. Mae’n darparu gwasanaethau rheoli credyd i gleientiaid o bob maint, ac yn cyflogi dros 3,600 o staff mewn 40 gwlad ledled y byd. Mae pencadlys y cwmni ym Mae Caerdydd wedi ennill gwobrau, ac mae’r adeilad yn gartref i 580 o staff.

Black Horse - llwyddiant carlamus yng Nghaerdydd

Sefydlwyd Black Horse, sy’n benthyca arian i ddefnyddwyr, yng Nghaerdydd yn 2001. Cafodd y cwmni ei greu er mwyn cyfuno dau o sefydliadau ariannol personol Grwp Lloyds TSB o dan un brand unedig. Mewn dim ond tair blynedd mae Black Horse wedi mynd o nerth i nerth gan ennill dros £150 miliwn o elw eleni ac mae’r busnes yng Nghaerdydd wedi chwarae rôl hanfodol yn hynny.

Composite Legal Expenses - yn datblygu canolfan ragoriaeth yng Nghaerdydd

Sefydlwyd Composite Legal Expenses yng Nghaerdydd ym 1996 ac mae’n flaengar yn y DU am ddarparu yswiriant costau cyfreithiol. Enillodd y cwmni sawl gwobr a chafwyd trosiant o £14 miliwn yn 2003. Hefyd yn 2003 roedd y cwmni yn y 4ydd safle o blith 50 cwmni o Gymru oedd yn tyfu gyflymaf. Rhwng 2000-2003 roedd cynnydd trosiant y cwmni yn 1234.8%.

Cox Claims Management - yn elwa o seiliau cadarn

Mae Cox Claims Management yn gwmni o Abertawe sy’n delio â hawliadau, ac mae’n gwasanaethu isadran gwarantu Cwmni Cox Insurance Holdings. Ers i Cox Insurance Holdings ei brynu ym 1995 mae cwmni Cox Claims Management wedi tyfu’n aruthrol a bellach mae’n cyflogi 250 o staff. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cysylltu gyda’r Awdurdod i sicrhau cefnogaeth i dyfu’r cwmni yn y dyfodol.

Creditsafe.com yn priodoli ei lwyddiant i Gymru

Hanes o lwyddiant yw hanes y cwmni hwn o’r Iseldiroedd. Mae pencadlys y cwmni gwybodaeth credyd hwn yng Nghaerffili - ac mae’r cwmni yn argyhoeddiedig fod y rhanbarth yn ardal arbennig ar gyfer recriwtio staff o ansawdd uchel. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mai symud i Gymru oedd y cam strategol gorau i’r cwmni ei gymryd erioed.

FIRSTPLUS - llwyddiant mewn rhanbarth ffyniannus

Sefydlwyd FIRSTPLUS yng Nghaerdydd ym 1997 gyda chymorth Awdurdod Datblygu Cymru. Mae’r cwmni yn darparu benthyciadau personol i ddeiliaid cartrefi. Bellach mae ganddo dros 92,000 o gwsmeriaid, ac mae wedi benthyca dros £2.9 miliwn mewn cyfnod o 6 mlynedd. Mae elw cyn-dreth y cwmni wedi treblu mewn 3 blynedd - o £26 miliwn yn 2000 i £68 miliwn yn 2003.

Legal and General - yn gwneud y gorau o botensial Cymru

Mae cwmni Legal and General yn flaengar ym maes gwasanaethau ariannol. Mae ganddo dros 5 miliwn o gwsmeriaid a chafodd ei restru ymhlith 50 cwmni uchaf y FTSE. Ym 1996 ymledodd y cwmni o’i bencadlys yn Ne-Ddwyrain Lloegr i adeiladau pwrpasol eu cynllun ynghanol Caerdydd. Symbylwyd yr ymlediad gan enw da y brifddinas yn rhyngwladol am staff dawnus, ac enw da Awdurdod Datblygu Cymru am gynnig cymorth ymarferol.

Grwp Thomas, Carroll - yn ymledu a datblygu mewn sector sydd ar gynnydd

Cwmni o Gaerffili yw Grwp Thomas, Carroll - broceriaid yswiriant annibynnol mwya Cymru. Sefydlwyd y cwmni ym 1972 ac mae wedi tyfu’n gyson fyth ers hynny - gyda’r ffigyrau incwm rhwng 2001-2003 yn cynyddu gan 50% o £12 miliwn i £18.5 miliwn.

Y Principality - y cawr ariannol cartrefol

Ers ei sefydlu ym 1860 tyfodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn sefydliad ariannol annibynnol mwyaf Cymru. Fe’i sefydlwyd i helpu pobl Cymru i brynu eu tai eu hunain ac mae’r cwmni’n dal gyda gwreiddiau dwfn yn y gymuned leol. Mae gan y Principality berthynas waith gref gyda’r WDA a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd i drafod cyfleon busnes.

Thomson Financial - bwydo gwybodaeth i’r diwydiant gwasanaethau ariannol

Mae Thomson Financial, sydd yn uned weithredu o Gorfforaeth Thomson, yn ddarparydd arweiniol o ddatrysiadau gwybodaeth a thechnoleg i’r gymuned ariannol fyd-eang.

Gan ddefnyddio adroddiadau ymchwil sy’n dod o fwy na 980 o ffyrmiau mwyaf blaengar y byd ac yn cwmpasu mwy na 30,000 o gwmnïau led-led y byd, mae Thomson Financial yn cyflwyno rhagolygon a dadansdoddiadau trylwyr i’r sector yn y farchnad fyd-eang. Ers ei sefydlu ym 1992 mae’r swyddfa yng Nghaerdydd wedi ehangu nifer o weithiau ac mae’n cyflogi 90 o ddadansoddwyr. Mae Thomson Financial yn elwa ar gymorth a chyngor parhaus oddi wrth ei Reolwr Cyfrif yn Awdurdod Datblygu Cymru.

Yes Loans & Morgages yn codi bawd ar Gaerdydd

Dim ond dair blynedd ar ôl ei ffurfio yng Nghaerdydd, mae Yes Loans & Morgages yn naddu cilfach sylweddol iddo’i hun ym marchnad fywiog benthyciadau personol.. Mae’r cwmni’n cynnig rhychwant o wasanaethau ariannol gan gynnwys benthyciadau personol wedi’u gwarantu ac ail forgeisi i gwsmeriaid ledled y DU ac wedi cynyddu’i drosiant o £300,000 i fwy na £3 miliwn. Bwriada Yes symud i swyddfeydd newydd a chynyddu’i staff bedair gwaith i 120 gyda chymorth oddi wrth y WDA.