Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008

Gwasanaeth cefnogi newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru

Mae manteisio ar eiddo deallusol (ED) creadigol yn rhan hanfodol o waith busnesau yn y diwydiannau creadigol. Mae'r diwydiannau creadigol yn rhan bwysig o economi Cymru, ac mae sawl sector diwydiannol yn rhan ohonynt, gan gynnwys:

  • Ffilm
  • Teledu
  • Cerddoriaeth
  • Mae busnesau yn y sector hefyd yn cymryd mantais gynyddol ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau newydd, fel y cyfryngau newydd neu ryngweithiol.

    Llwyddiant creadigol - strategaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru

    Mae strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ’Llwyddiant creadigol - strategaeth y diwydiannau creadigol yng Nghymru’ am geisio helpu busnesau creadigol a leolir yng Nghymru fod yn broffidiol, yn gynaliadwy, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi Cymru.

    Y ’Both’ - gwasanaeth ’siop-un-stop’ newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Ym mis Rhagfyr 2005, caiff camau gweithredu allweddol a danlinellwyd yn y strategaeth eu rhoi ar waith, fel Gwasanaeth Cefnogi newydd Diwydiannau Creadigol Cymru - y ‘Both’ - gwasanaeth newydd cyffrous ar gyfer busnesau masnachol creadigol a leolir yng Nghymru.

    Cysylltwch â'r ‘Both’

    0845 603 1614