Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Gorolwg o'r Sector Biowyddoniaeth / Ffotograffiaeth, prawf ansawdd ar feddiginiaeth gan dechnegydd

Gorolwg O’r Sector Biowyddoniaeth

Mae gan y clwstwr biowyddoniaeth yng Nghymru bartneriaethau masnachol ac academaidd gyda sefydliadau ledled y byd.

Yng Nghymru ceir un o glystyrau biowyddoniaeth hynaf y DU - ac mae’n ymledu’n gyflym. Eisoes mae gan y clwstwr enw da am ragoriaeth wyddonol ac academaidd, ac mae dros 250 o gwmnïau wedi dewis lleoli yng Nghymru.Mae’r sector eisoes yn cyflogi dros 15,000 o weithwyr.

Mae arloesedd a chyrhaeddiad technegol mewn biowyddoniaeth yn golygu y gall Gymru gystadlu ar lwyfan byd-eang.Mae’r sector yn ddibynnol ar hygyrchedd i ymchwil a datblygu ar derfynau eithaf y maes ac ar weithlu medrus.Hefyd mae angen arni isadeiledd gadarn, gyda chyflenwyr o safon uchel, yn ogystal â gwasanaethau technegol, gwyddonol a chyllidol.Mae’r clwstwr biowyddoniaeth yng Nghymru yn gyfle gwych i feithrin perthynas fusnes newydd, i gydweithredu a ffurfio partneriaethau.

Mae gan y clwstwr bartneriaethau masnachol ac academaidd gyda sefydliadau ledled Ewrop a thu hwnt, a rhagwelir y bydd y galw am arbenigedd biowyddoniaeth o Gymru a chynnyrch o Gymru yn tyfu’n sylweddol dros y ddegawd nesaf.

Adeiladwyd llwyddiant parhaus y sector ar y dolenni cyswllt rhwng sefydliadau academaidd fel Prifysgol Caerdydd (a gyfunodd gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn ddiweddar), a chwmnau brodorol o fewn y sector.Hefyd, mae gan Gymru sylfaen sgiliau gadarn a chyson, isadeiledd pwrpasol ei gynllun ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datgan ei hymrwymiad pendant i’r sector.

Sut Mae Llwodraeth Cynulliad Cymru Yn Helpu Datblygu'r Sector

Bellach, “Tîm Cymru” asiantaeth Llywodraethol o Gymru yn cydweithio gyda chyrff o’r sector), sy’n gyfrifol am ddatblygu’r sector.Mae Tîm Cymru'n sicrhau fod y cwmnïau yn cael y cysylltiadau angenrheidiol i’w helpu i dyfu eu busnesau mewn modd cynaladwy.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Bydd gan Tîm Cymru bresenoldeb sylweddol mewn digwyddiadau masnach mawr, e.e Medica yn yr Almaen. Un o’r prif amcanion wrth fynychu’r digwyddiadau hyn bydd defnyddio cwmnïau o Gymru i hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau.Mae’r digwyddiadau hyn yn cynyddu cyfleoedd masnach ac allforio i gwmnïau’r sector, ac yn codi ymwybyddiaeth am Gymru fel cyfle i fuddsoddi o fewn Ewrop.

Hefyd, mae Technium yn cefnogi datblygu o fewn y sector.Rhwydwaith fusnes yw Technium sy’n meithrin busnesau technolegol ifainc, ac yn darparu’r wybodaeth, y gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i’w cynorthwyo hwy i lwyddo.Mae adnoddau Technium ar gael ledled Cymru ac maent wedi’u lleoli i ecsbloetio clystyrau diwydiannol lleol a chanolfannau rhagoriaeth ymchwil.

Mae cymorth ariannol ar gael hefyd i fusnesau newydd, a chymorth i helpu cwmniau bychain a chanolig eu maint ymledu.Mae Cyllid Cymru (www.financewales.co.uk - bydd ffenest newydd yn agor), yn bodoli i helpu cwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru i wireddu eu potensial ar gyfer arloesedd a thwf.

Gall Cyllid Cymru wella hygyrchedd nid yn unig i gyllid, ond hefyd i arbenigedd masnachol, ac mae ganddo enw da yn rhoi cymorth i nifer o fusnesau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

e-Gylchlythyr sector Biowyddorau

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu ystod eang o wasanaethau wedi’u targedu at gwmnïau Biowyddorau yng Nghymru a chwmnïau sy’n gwerthu mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y datblygiadau diweddara yn y sector Biowyddorau yng Nghymru, tanysgrifiwch i’n grwp newyddion e-bost isod.

Tanysgrifiad i grwp e-bost:
Nodwch eich cyfeiriad e-bost yma:
Tanysgrifio i'r grwpiau e-bost canlynol
e-Gylchlythyr Sector Biowyddorau - Cadwch mewn cysylltiad gyda?r datblygiadau diweddara o fewn y sector allweddol hwn yng Nghymru.

Bydd y WAG yn cadw cofnod o'ch gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich tanysgrifiad i grwp (grwpiau) e-bost. Bydd hyn yn galluogi'r WAG i e-bostio gwybodaeth atoch bob hyn a hyn a all fod o ddiddordeb i chi. Mae modd terfynu'ch tanysgrifiad i'r gwasanaeth hwn unrhyw bryd trwy ddilyn y cyswllt 'terfynu tanysgrifiad' ar y wybodaeth a fydd yn cael ei rhoi. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael eu defnyddio gan y WAG yn unig. Ni fyddant yn cael eu datgelu i sefydliadau nac unigolion y tu allan i'r WAG.

Edrych am tyr masnachol a rhinwedd