![]() |
|
||||
|
Croeso i Accelerate CymruHon yw’r fenter fawr gyntaf wedi’i seilio ar y sector ar gyfer y Diwydiant Modurol yng Nghymru. Fe’i cefnogir gan gorff eang o sefydliadau partner, ond caiff ei reoli gan y WDA. Mae’n tynnu ar brofiad yr holl bartneriaid o ran cefnogi busnes, datblygu ac addysg a chaiff ei gefnogi gan adnoddau sylweddol. Wrth fabwysiadu ymagwedd benodol y gadwyn gyflenwi o’r brig i lawr, mae Accelerate Cymru yn arddangos y profiad a enillwyd gan yr Asiantaeth yn ei Fentrau Clwstwr a’i Gymdeiaths Darparwyr, yn ogystal â’r hyn a ddangoswyd gan weithgarwch Grwp Cadwyn Gyflenwi Fforwm y Diwydiant. Bydd Accelerate yn darparu adnoddau i’r sector ar ffurf Hyrwyddwyr Cadwyn Gyflenwi bob un wedi’i leoli mewn cwmni ‘Arweiniol’. Maent yn prosiect-reoli’r gweithgarwch er mwyn gwella perfformiad eu cadwyn-gyflenwi. Mae’r fenter yn gwella’r sylfaen wybodaeth ymhellach wrth hyfforddi gweithwyr i ddefnyddio amrywiol offer a thechnegau arfer-gorau, a lledaenu’r wybodaeth drwy rwydwaith o Hyrwyddwyr. Yn ychwanegol at hyn, mae rhaglen hyfforddi o ansawdd uchel a gwefan soffistigedig sy’n rhoi mynediad i wybodaeth benodol ar gyfer y diwydiant; mae deunydd hyfforddi a chyfarwyddiadur o gysylltiadau arbenigol yn cefnogi’r fenter. Mae Accelerate Cymru yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i’r gadwyn gyflenwi ar ffurf ariannu ar gyfer yr Hyrwyddwr; fodd bynnag, bydd ei mwyafrif yr hyfforddiant a’r addysgu yn deillio o atgyfeirio i raglenni eraill, lle bo hynny’n briodol a lle bo ariannu ar gael. Felly mae’r gefnogaeth yn dod oddi wrth yr holl bartneriaid ac yn hyblyg er mwyn rhoi mesur o ryddid i’r Hyrwyddwyr wrth ddylunio a gweithredu eu cynlluniau datblygu busnes eu hunain. Gan hynny, mae Accelerate Cymru yn adlewyrchu’r cysyniad mai menter yw a gaiff ei llywio gan y diwydiant, a luniwyd er mwyn i gwmnïau Modurol Cymru ddiwallu eu hanghenion penodol, ac wrth wneud hynny, daw â manteision sylweddol i economi Cymru yn ei gyfanrwydd.
|
|
|||