Datblygu Cadwyn Gyflenwi

Nodau | Strwythur Rheoli

Nodau

Mae Accelerate Cymru yn fenter a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â Diwydiant Modurol Cymru ac ar ei gyfer, sy’n canolbwyntio ar wella perfformiad y Gadwyn Gyflenwi. Mae hefyd yn annog cwmnïau i fanteisio ar y gefnogaeth y gall rhaglenni a noddwyd gan y Llywodraeth eu rhoi iddynt.

Mae’r ymagwedd yn wahanol o ran ei fod yn caniatáu i ‘Gwmnïau Arweiniol’ annog i gyfranogi darparwyr er lles eu perfformiad eu hunain, ond ar yr un pryd er mwyn cael canlyniadau cadarnhaol ar draws eu Cadwyn Gyflenwi/ ‘Llif Gwerth’.

Er mwyn cael arian, disgwylir i’r ‘Cwmni Arweiniol’ recriwtio 8 cwmni neu fwy i gymryd rhan yn eu rhaglen datblygu Cadwyn Gyflenwi, a llunio cynllun busnes er mwyn cefnogi eu cais am gefnogaeth gan ‘Accelerate Wales’. Rhaid iddynt hefyd ymroi i ddarparu ‘Hyrwyddwr’ y bydd y fenter yn cynnal ei gostau am dair blynedd lawn.

Dylai pedwar o’r cwmnïau a recriwtir gael eu lleoli mewn ardaloedd Amcan 1 neu Amcan 2 yng Nghymru, ond nid oes rhaid iddynt i gyd fod yn gyflenwyr ar hyn o bryd. Gellir hefyd ystyried cyflenwyr Di-Gymreig a leolir yn y DU os oes ganddynt rôl ym mherfformiad y gadwyn yn ei chyfanrwydd ac os ydynt wedi eu lleoli yn nalgylch Accelerate (DU).

Yn syml, mae’r Fenter yn ceisio cael gwelliannau ym mherfformiad y cwmnïau sy’n cymryd rhan sydd o leiaf i’w cymharu â’r gwelliannau a gyflawnwyd gan raglenni’r ‘Fforwm Diwydiant’ sy’n cael eu cynnal yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Caiff effeithioldeb rhaglen ei werthuso drwy gyfuniad o Fapiau ‘Llif Gwerth’ Cadwyni Cyflenwi cymharola’r saith mesur o Gost Ansawdd a Darparu a nodir isod:

% Gwellhad Cymharol% Gwellhad Gorau
Heb fod yn gywir y tro cyntaf2565
Cyflawni amserlen gyflwyno4070
Cynhyrchiant Pobl3065
Troadau Stoc135260
Effeithioldeb Offer yn Gyffredinol2040
Gwerth a Ychwanegwyd y person40100
Defnydd o Le4090

Yn ychwanegol, os yw’r gefnogaeth a ddarperir yn cyfrannu’n uniongyrchol at arbed swyddi neu greu rhai newydd, caiff hyn ei adrodd yn ogystal â gwerth unrhyw gytundebau newydd. Gosodwyd targedau uchelgeisiol ar gyfer y prosiect yn gyffredinol; fe’u rhestrwyd isod:

CYFANSWM Y CYNNYRCH
  • Nifer yr Hyrwyddwyr Cadwyn Gyflawni achrededig/ Mentoriaid a recriwtiwyd: 35
  • Nifer y cwmnïau SME sy’n derbyn cymorth: 150
  • Nifer gweithwyr y cwmnïau SME sy’n derbyn hyfforddiant unigol: 750
  • Nifer y rhwydweithiau Datblygu Cadwyn Gyflenwi Modurol a grëwyd: 1
  • CYFANSWM Y CANLYNIADAU
  • Tyfiant yn y Trosiant Gwerthu o £82.5 miliwn
  • Trosiant Gwerthu a Ddiogelwyd £40 miliwn
  • Crynswth y Swyddi a Grëwyd 1222
  • Crynswth y Swyddi a ddiogelwyd 611
  • Cymerwyd y ffigurau hyn o’r cais am arian o Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd.


    Strwythur Rheoli

    Dywedodd Papur y Cynulliad Cenedlaethol (EDC-12-00) a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Datblygu Economaidd y byddai’r fenter yn cael ei goruchwylio gan Fwrdd Rheoli Prosiect, a weithredwyd gan Dîm Rheoli Prosiect gyda chais am ariannu/cefnogaeth yn cael ei adolygu gan Banel Arfarnu Anibynnol

    Byddai’r strwythur hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lefel uchel o ffocws a chydgysylltu yn digwydd, i alluogi mynediad i’r ystod ehangaf o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer cwmnïau ‘Arweiniol’. Pe câi yr adnoddau a’r gefnogaeth iawn, dylai’r trefniant hwn arwain at y manteision mwyaf i’r diwydiant, ac felly ir economi yn ei gyfanrwydd.


    Bwrdd Rheoli Rhaglen

    Cytunwyd eisoes y bydd y Tasglu Modurol yn cyflawni swyddogaeth Bwrdd Rheoli Rhaglen Accelerate Cymru. Ei rôl yw goruchwylio’r fenter a sicrhau bod y bartneriaeth yn gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon. Trwy Reolwr Menter y WDA, mae hefyd yn gyfrifol am ddewis a chymeradwyo’r Tîm Rheoli Prosiect a’r Panel Arfarnu Prosiect.


    Tîm Rheoli Prosiect

    Mae’r Tîm Rheoli Prosiect yn gweithredu a gweinyddu’r fenter yn ogystal â chysylltu â busnes yn barhaus. Mae’n cefnogi ac yn cydlynu’r broses ‘Arfarnu Ceisiadau’, ond nid yw’n cyfrannu o gwbl at y penderfyniadau ynghylch cymeradwyo ceisiadau. Am mai’r WDA yw’r Corff Arweiniol, mae wedi recriwtio’r staff gweinyddol craidd ac yn eu rheoli, gan gynnwys Rheolwr Tîm y Prosiect sy’n adrodd drwy Reolwr Menter y WDA yn uniongyrchol at y Bwrdd Rheoli. Mae ELWA yn enwebu cynrychiolwyr i roi cymorth mwy anffurfiol fel y bo angen, at ddibenion cysylltu â chynghori yn ogystal â chyfrannu at hyfforddi Hyrwyddwyr.


    Panel Arfarnu Prosiect

    Mae’r Panel Arfarnu Prosiect yn cynnwys cynrychiolwyr arbenigol o Ddiwydiant, y Byd Academaidd, yn ogystal â’r WAF, WDA ac ELWA. Mae’n adolygu ceisiadau am ariannu Accelerate Cymru, yn argymell i’r Bwrdd a ddylid dylid cymeradwyo cais a’r lefel briodol o ariannu ac amseru’r ariannu.

    Ystyrir ceisiadau gan Gwmnïau Arweiniol ar sail cynllun busnes manwl, sy’n adnabod anghenion datblygu busnes y Cwmni Arweiniol a’r holl gyfranogion. Ar yr un pryd, rhaid iddynt ymrwymo i gael Hyrwyddwr Prosiect y gellid ei recriwtio’n fewnol neu beidio, ond rhaid iddo gael y wybodaeth briodol am y sector. Er mwyn nodi’r offer, technegau a’r cynnyrch hyfforddi mwyaf priodol, yn ogystal â chostau, gall Gwmnïau Arweiniol gael cefnogaeth gan y Tîm Rheoli Prosiect a Fforwm Modurol Cymru wrth lunio eu cynllun busnes.

     

     

    Useful Links